Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

CERDDORIAETH / GEIRIAU

THE MUSIC

Mae Nawr Yr Arwr / Now The Hero yn gam arall ar daith greadigol Marc Rees wrth greu theatr sy’n ymateb i’r lleoliad, drwy osod elfen gerddorol yn greiddiol i’r prosiect y tro hwn.Requiem i ymgolli ynddi fydd y gerddoriaeth, a honno wedi’i chyfansoddi gan Johann Jóhannsson o Wlad yr Iâ, sydd wedi’u enwebu ddwywaith am Oscar, ar y cyd ag Owen Morgan Roberts, yr artist trawiadol o Gymru.Owen Sheers, yr awdur o Gymru, fydd yn gyfrifol am y libreto, a Polyphony, côr enwog Stephen Layton, fydd yn canu.

Jóhann Jóhannsson

Polyphony

Stephen Layton

Owen Morgan Roberts

Y GEIRIAU

The Gododdin

Cyfansoddwyd ‘Y Gododdin’ gan Aneurin yn OC 600 ac mae’n un o’r enghreifftiau hynaf sydd wedi goroesi o farddoniaeth Gymraeg.Mae’r arwrgerdd yn adrodd hanes 300 o ryfelwyr Celtaidd sy’n ymgynnull ar ôl dod ynghyd o lefydd mor bell â Phrydyn a Gwynedd. Ar ôl blwyddyn yn gwledda yn Din Eidyn, sef Caeredin heddiw, maen nhw’n ymosod ar Gatraeth – yn fwyaf tebygol, Catterick yng ngogledd Swydd Efrog erbyn hyn. Ar ôl sawl diwrnod yn ymladd yn erbyn byddin enfawr y gelyn, cafodd bron y cyfan o’r milwyr eu lladd. Mae’r gerdd yn debyg ei naws i farddoniaeth arwrol mewn ieithoedd eraill, gyda’r pwyslais ar arwyr sy’n brwydro’n bennaf er mwyn bri, ond nid naratif mohoni.

Awdur, bardd a dramodydd yw Owen Sheers. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth, sef The Blue Book a Skirrid Hill, a enillodd Wobr Somerset Maugham.Daeth The Dust Diaries, sef ei gyfrol ryddiaith gyntaf sydd wedi’i lleoli’n Zimbabwe, yn fuddugol yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2005. Mae Resistance, ei nofel gyntaf, wedi’i chyfieithu i un ar ddeg o ieithoedd.

Mae gwaith Owen i’r llwyfan yn cynnwys sgript a nofel ddiweddarach (The Gospel of Us) i The Passion, sef cynhyrchiad 72 awr National Theatre Wales ym Mhort Talbot.Drama a gafodd ei chreu gyda dau filwr clwyfedig oedd The Two Worlds of Charlie F. Teithiodd hon drwy’r Deyrnas Unedig a Chanada gan ennill Gwobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol. Drama lwyddiannus arall oedd Mametz, a gynhyrchwyd gan National Theatre Wales. Enillodd ei ddrama fydryddol Pink Mist, a gomisiynwyd gan BBC Radio 4 a'i chyhoeddi gan Faber ym mis Mehefin 2013, Fedal Barddoniaeth Gŵyl y Gelli a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2014. Cynhyrchwyd hon ar gyfer y llwyfan yn yr Old Vic, Bryste, ym mis Mehefin 2015. Mae Owen wedi cydweithio â chyfansoddwyr ar ddwy oratorio.Cafodd The Water Diviner’s Tale ei chreu gyda Rachel Portman a’i pherfformio ym Mhroms y BBC yn 2007, tra crëwyd A Violence of Gifts, a ysbrydolwyd gan gyfnod o ymchwil yn CERN, gyda Mark Bowden a’i pherfformio am y tro cyntaf yn Neuadd Dewi Sant ym mis Ebrill 2015.

Darllen mwy

NAWR Y PERFFORMIAD

Yn ôl yr arfer yng ngwaith diweddar Rees, bydd Nawr Yr Arwr yn cael ei berfformio mewn sawl lleoliad, ond mae’n brosiect ar gynfas ehangach hefyd, gan gyfuno tri chyfnod o ryfela:y cyfnod Celtaidd (wedi’i gynrychioli gan ‘Y Gododdin’), y Rhyfel Mawr (wedi’i gynrychioli gan Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig), a gwrthdaro cyfoes (wedi’i gynrychioli gan filwr o Abertawe sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, ac a fydd yn rhoi’r llinyn storïol i’r gwaith).