Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)


Darlunio drwy Brangwyn, Medi 23. Digwyddiad bywluniadu ar thema Frank Brangwyn sydd i’w gynnal yng ngardd gymunedol GRAFT yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle bydd modelau niferus, heb ddillad ac mewn gwisgoedd, yn sefyll yng nghanol y llysiau, y blodau a’r perlysiau a ddarlunnir ym Mhaneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Brangwyn, a hynny i greu llun naratif sydd wedi’i ysbrydoli gan y paentiadau.

Yn ystod hyn bydd modd i’r rheini sy’n cymryd rhan glywed manylion am hanes y paneli gan Marc Rees, Cyfarwyddwr Artistig NTH/NYA a'r artist Lauren Heckler.

Mae rhagor o fanylion ar dudalen unigol y digwyddiad.

18.00, Ticket information at end of text