Ynghyd â'r gyfres o weithiau celf mawr a grëwyd gan artistiaid Oriel Elysium, mae’n bleser gan Ganolfan Gelfyddydau Taliesin, mewn cydweithrediad ag Oriel Goldmark, gyflwyno'r cyfle i brynu printiau gwreiddiol gan Frank Brangwyn.
Caiff diddordeb Brangwyn mewn prosesau argraffu ei adlewyrchu yn y ffaith iddo gael ei enwebu’n Gydymaith ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Peintwyr-Argraffwyr ym 1903 ac mai ef oedd Llywydd cyntaf y Gymdeithas Celfyddyd Graffig ym 1921, grŵp a oedd yn arddangos lluniadau a phrintiau yn orielau'r Sefydliad Brenhinol rhwng 1921 a 1940.
Penodwyd Brangwyn yn Artist Rhyfel Swyddogol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'n bosibl mai’r agwedd fwyaf adnabyddus ar y gwaith hwn yw ei bosteri lithograffig sy’n annog dynion i ymuno â'r lluoedd arfog ac sy’n annog yr ymdrech ryfel yn gyffredinol.
Ac yntau’n un o ddrafftsmyn gorau ei oes, mae'r casgliad hwn o lithograffau ac ysgythriadau sydd ar werth yn tynnu sylw at arbenigedd Brangwyn ym maes argraffu.