Mae’r artistiaid o Abertawe, Philip Cheater, Kathryn Anne-Trussler, Amy Goldring, Tom Morris, Sophie Kumar-Taylor ac Ann Jordan wedi creu cyfres o weithiau celf sy’n ymateb i Baneli Neuadd Brangwyn yn Abertawe.Comisiynwyd y Paneli yn 1924 ar gyfer Tŷ'r Arglwyddi fel modd o goffau’r Rhyfel Mawr.Dewiswyd Brangwyn, a oedd wedi gweithio fel artist rhyfel swyddogol, i greu darlun addurniadol a fyddai’n cynrychioli gwahanol diriogaethau a rhannau o’r Ymerodraeth Brydeinig.Cwblhawyd y gwaith yn 1932, ond fe’i gwrthodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi ac felly rhoddodd Abertawe gartref i’r paneli yn adeilad newydd Neuadd y Ddinas yn 1934.
Gan ymgolli yn y llystyfiant toreithiog a’r cynefinoedd amrywiol sy’n cael eu darlunio yn y paneli, ac wedi'i hysbrydoli gan yr Ardd Fotaneg, bydd yr arddangosfa hon yn cyd-fynd â sioe o weithiau mwy o faint yn Theatr y Grand, Abertawe.
Ar agor:10-4.30pm bob dydd,a’r arddangosfa’n parhau tan 13 Tachwedd
Sgwrs â’r artistiaid: dyddiad i’w gadarnhau