Mae artistiaid Oriel Elysium, sef Philip Cheater, Kathryn Anne-Trussler, Amy Goldring, Tom Morris, Sophie Kumar-Taylor ac Ann Jordan, wedi creu cyfres o weithiau celf mawr sy’n ymateb i Baneli Neuadd Brangwyn yn Abertawe.Mae'r rhain yn ymateb i’r llystyfiant ffrwythlon a'r cynefinoedd amrywiol yn y paneli, a bydd cyfres o ysgythriadau, lithograffeg a phrintiau gan Frank Brangwyn (1867 – 1956) yn cyd-fynd â’r rhain ar ôl cael eu benthyg o Oriel Goldmark trwy gymorth Canolfan y Celfyddydau Taliesin.
Rhagddangosiad:1pm
Ar agor:Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10 – 5pm, a’r arddangosfa’n parhau tan Hydref 2
Digwyddiad am ddim