Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

Lee Karen Stow: Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae Lee Karen Stow, y ffoto-newyddiadurwraig, wedi treulio degawd yn adrodd straeon personol menywod mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, a menywod sy’n ymgyrchu dros heddwch, a hynny o Sierra Leonei Eryri, a bellach yn Abertawe. Mae ei phortreadau’n rymus a’i straeon yn gyfareddol.

“Yn 2017 gofynnodd Cymru dros Heddwch i mi dynnu lluniau o rai o’r menywod niferus yng Nghymru sydd wedi profi rhyfel a gwrthdaro neu wedi teimlo'u heffeithiau, ynghyd â nifer fach o'r lliaws sydd wedi ymgyrchu ac sy’n dal i weithio a gobeithio am heddwch.Ychydig enghreifftiau’n unig fydd y wynebau ar y muriau fan hyn o’r unigolion niferus y mae eu straeon eto i’w hadrodd a’u rhannu.Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn dechrau sgwrs am bresenoldeb hanesyddol a pharhaus rhyfel yn ein bywydau, a’r ymgais barhaus i geisio heddwch. Lee Karen Stow

Cyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

http://www.cymrudrosheddwch.or...

Dyddiadau: 19 Medi – 10 Hydref (i'w gadarnhau)

Ar agor:Llun – Gwener 10-4.30pm

http://www.cymrudrosheddwch.or...

Digwyddiad am ddim