Cyfres o sesiynau arlunio byw yn seiliedig ar Frank Brangwyn, gydag effaith Canol Dinas Abertawe!
Yn seiliedig ar Baneli yr Ymerodraeth Frank Brangwyn, bydd nifer o fodelau yn gwneud ystymiau mewn gwisg i greu naratif wedi’i ysbrydoli gan y peintiadau; yn dal amrywiaeth o ystymiau yn parhau o un funud hyd at un awr.
Wrth wrando ar fanylion am hanes y paneli, ac yn erbyn cefndir Canol Dinas Abertawe, bydd cyfranogwyr yn gallu creu dehongliadau eu hun o’r gwaith. Mae’r digwyddiadau arbennig yma’n agored i bawb, o nofyddion i artistiaid broffesiynol. Bydd deunyddiau syml ar gael, ond mae croeso mawr i chi ddod a rai eich hun. Ni fydd diwtoriaeth yn ystod y digwyddiadau yma, ond mi fydd aelodau staff ar gael i gynnig gyngor a chymorth os oes angen.
Cyd-drefnwyd Arlunio o Frangwyn gan artist Lauren Heckler, mewn cysylltiad ag Arlunio Byw @ Elysium, a datgeliad o’r oriel a stiwdio symudol newydd Elysium.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau lloerig Nawr yr Arwr/ Now the Hero dan y faner “Nawr Am Fwy/ Now For More” sy’n digwydd ar draws Abertawe.
Mae Nawr yr Arwr yn defnyddio Paneli Ymerodraeth Prydeinig Brangwyn fel sbringfwrdd am archwilio naratifau o ryfel, undod amser heddwch, a chytgord. Mae’r paneli yn cynnig golwg digyfaddawd o’r bosibiliadau lliwgar ac optimistaidd o Ymerodraeth ôl-rhyfel ac yn datgelu’r trasiedi o ryfel wedi’i guddio tu ôl i’r golygfeydd ffrwythlon a hynod helaeth.
Nawr am Fwy/ Now For More yw gŵyl bychan bydd yn debyg i Benwythnos Celf wedi’i lledaenu dros yr wythnos o Ddydd Gwener 21ain, i Ddydd Sadwrn 29ain o Fedi. Bydd NAF/ NFM yn cynnwys holl sefydliadau diwyllianol y ddinas, yn fawr ac yn fychan, bydd yn eu ffyrdd unigryw eu hun yn ymateb i brif thema NYA/ NTH - effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthynasau dynol ac i’r Paneli eu hun. Bydd NAF/ NFM yn ymddangos digwyddiadau, arddangosfeydd, sgyrsiau artistiaid, gweithgareddau teuluol, teithiau, gwaith celf cyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau gan artistiaid cyfoes eithriadol, o fewn nifer o leoliadau ar draws Abertawe.
Mae mynediad i bob leoliad a phrosiect o Nawr Am Fwy/ Now For More yn rhad ac am ddim.
Sgwâr y Castell, Abertawe
D Sad 22 Medi 11yb - 2yp
D Sad 29Medi 10yb - 12yp
Plis, gwisgwch yn dwym, ond os oes cenllif o law ein opsiwn tywydd gwlyb bydd Marchnad Canolog Abertawe.