More Poetry is needed - dyna ddatganiad sydd wedi’i gyplysu ag Abertawe yn sgil gwaith celf eiconig Jeremy Deller ar gyfer Locws International, yng nghefn Canolfan Siopa’r Quadrant.Fel ymateb i’r slogan grymus hwn, rydym wedi gwahodd Jeff Towns, y cymeriad lleol a’r arbenigwr mawr ar Dylan Thomas, i barcio ei Fws Llyfrau mewn lleoliad canolog yn y ddinas. Bydd yn curadu darlleniadau o gerddi a straeon byrion yn benodol am Abertawe gan bobl fel Thomas wrth gwrs, ynghyd â Vernon Watkins, Amy Dilwyn a Joe Dunthorne. Bydd pwyslais penodol ar y bardd Edward Thomas a laddwyd ym Mrwydr Arrasyn ystod y Rhyfel Mawr yn 1917. Pobl Abertawe fydd yn darllen – o siopwyr ar y stryd i Jacs enwog y ddinas.
Digwyddiad am ddim