Bydd Rose Davies/ Rosie Scribblah yn gweithio ar ei corff o waith newydd “Yma Bu Dreigiau” sy’n golygu tirwedd beryglus neu anhysbys!
Wedi’i gomisiynu gan Sky Arts TV am gyfres yn y flwyddyn newydd, bydd Rose yn archwilio’r cwestiwn “Ym Mhrydain ar ôl Brexit, pwy ydym ni?”
Bydd Rose yn defnyddio’i preswylfa yn stiwdios Elysium/ Nawr yr Arwr a’i stiwdio agored yn Volcano i ddatblygu darn newydd o gelf yn wreiddiedig ym mhrofiadau pobl o fod yn Brydeinig. Bydd y Stiwdio Agored yn rhoi profiad ‘real-time’ i ymwelwyr o sut mae artist yn gweithio, archwilio, datblygu a chynhyrchu celf.
Mae ymchwil cynnar Rose yn barod wedi datgelu barnau, gwahaniaethau a gwrthdrawiadau gwleidyddol dwys – hynafol a modern.
Wrth ddilyn y broses tuag at greu ei darn terfynol, bydd Rose yn cynnig ymwelwyr i’w Stiwdio Agored y cyfle i gael siarad am fod yn Brydeinig a’r cyfle i roi gyfweliad byr ar gamera, rhywbeth gall cael ei gynnwys blwyddyn nesaf yn rhaglen Sky Arts.
Preview: 6.30 – 8.30pm, exhibition continues until 29 September
Opening times: Mon – Sat 10 – 5pm
www.scribblah.co.uk
www.volcanotheatre.co.uk
www.elysiumgallery.com