Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Christine Buxton.Mewn hen flwch a etifeddwyd, mae negeseuon mewn pensil ar ddarnau pitw o bapur, cardiau post ac arnyn nhw luniau o hen danciau ac awyrennau, toriadau o bapurau newydd, botymau, medalau a rhubanau, ac amlen â rhimyn du o'i hamgylch. Mae’r llythyrau a’r dogfennau hyn, a ysgrifennwyd ac a gasglwyd dros chwe chenhedlaeth, yn rhoi deunydd cyfoethog a gwreiddiol ar gyfer y perfformiad bywgraffyddol hwn gan bedwar actor.Mae’r rhain yn adrodd straeon am wrthryfel, protest a gwleidyddiaeth; straeon am bobl sy’n mynd i ryfel, y rheini a arhosodd gartref, y rheini a ddaeth adref, a’r rheini na wnaeth.
Amser: 4-5am
Digwyddiad am ddim