Arddangosfa sy’n rhoi cyfle i'r gynulleidfa ddarganfod y menywod a recriwtiwyd i weithio yn y ffatrïoedd arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Mawr.
Y Munitionettes neu’r Canary Girls oedd eu llysenw, ond roedd y gwaith peryglus a chaled yn rhoi rhyddid o’r newydd iddyn nhw. Rhyddid fel cael gweithio y tu allan i’r tŷ a hyd yn oed enwogrwydd ar y cae pêl-droed.
AR AGOR bob dydd 12-5pm
Digwyddiad am ddim