Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

Tracing Frank Brangwyn


Yn ogystal a Phaneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Brangwyn, a’r brasluniau hyfryd sy’n crogi ar goridorau Neuadd y Ddinas, mae gennym nawr gynnig cwbl arbennig fel rhan o NAWR AM FWY: cyfle i weld casgliad o frasluniauparatoadol a greodd Brangwyn ar gyfer y Paneli, a’r rheini erioed wedi’u gweld gan y cyhoedd o’r blaen.

Bydd y lluniau rhyfeddol a phrin hyn, sydd wedi’u benthyg gan John ac Anne Morgan, i’w gweld mewn lleoliadau ledled canol y ddinas rhwng Medi 21 a 29:

 Oriel Mission, Medi 21 - 29

 Amgueddfa Abertawe, Medi 22 - 29

 Oriel Elysium, Medi 29. Fel rhan o berfformiad tynnu llun Marega Palser, NOW THE WAR, NOW YER RAW

 >span class="s4"> 29 – Hydref 29. Casgliad o ysgythriadau, lithograffau a phrintiau Brangwyn, wedi’u benthyg gan Oriel Goldmark drwy ganolfan y Celfyddydau Taliesin. Gellir gweld y rhain ynghyd â chyfres o weithiau celf mawr y mae artistiaid Oriel Elysium wedi’u creu wrth ymateb i Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig.

 Sgwâr y Castell, Medi 22 a 29. Sesiynau bywluniadu ar thema FrankBrangwyn gyda chanol dinas Abertawe yn gefndir, a chyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan greu eu dehongliadau eu hunain o’r gwaith.


Amryw o safleoedd felly edrychwch ar y ddigwyddiad unigol

Digwyddiad am ddim