Pleser mawr i Glynn Vivian yw gallu arddangos gwaith grymus Yinka Shonibare sy’n edrych ar themâu gwrthdaro, ymerodraeth ac ymfudo, a hynny ganrif wedi diwedd y Rhyfel Mawr. I gyd-fynd â Nawr Yr Arwr Marc Rees, a gomisiynwyd ar gyfer 14-18 NOW, bydd End of Empire, cerflunwaith Shonibare, yn dangos sut y gwnaeth y cynghreiriau a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Mawr newid cymdeithas ym Mhrydain am byth, a sut y mae hynny’n dal i effeithio arnom ni heddiw. Mae’r gwaith yn dangos dau ffigwr wedi’u gwisgo yn y ffabrig lliwgar a phatrymog y mae’r artist yn enwog amdanynt, a’u pennau glôb yn dangos y gwledydd a fu’n rhan o’r Rhyfel Mawr. Wedi’i osod ar si-so o oes Fictoria, mae’r holl waith yn troi’n araf ar golyn yn yr oriel, yn drosiad o ddeialog, cydbwysedd a gwrthdaro, ac yn symbol o bosibilrwydd cyfaddawd a datrys problemau rhwng dwy ochr.
22 Medi – 24 Chwefror 2019