Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

Cefndir

Man cychwyn Nawr Yr Arwr \ Now The Hero yw 16 o ddarluniau mawr gan Frank Brangwyn, a’r rheini’n ffurfio Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig. 

Yn 1924, penderfynodd Tŷ’r Arglwyddi gomisiynu gweithiau celfyddydol coffaol i anrhydeddu cyfoedion a pherthnasau a laddwyd yn y Rhyfel Mawr. Er nad oedd Brangwyn yn Artist Rhyfel swyddogol, roedd wedi cynhyrchu dros 80 o bosteri ar gyfer Stampiau Bondiau Rhyfel ac elusennau, yn ogystal â chreu nifer o weithiau i goffáu’r rhyfel. Comisiynodd yr Arglwyddi Brangwyn i greu dau ddarlun mawr: roedd y gweithiau’n cynrychioli gwrthdaro arfog yn uniongyrchol, ac fe’u gwrthodwyd gan yr Arglwyddi (a maes o law gan Brangwyn ei hun) am eu bod yn rhy dreisgar ac annymunol i’w dangos.  Yn 1931, rhoddodd Brangwyn un o’r darluniau, ‘A tank in action', i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, lle mae’n crogi ar fur yn y brif neuadd.

Aeth Brangwyn ati wedyn i ddatblygu cynllun cwbl newydd. Ei fwriad oedd osgoi trin a thrafod rhyfel a gwrthdaro yn uniongyrchol. Yn hytrach, thema’r paneli fyddai cynnyrch a phobl yr Ymerodraeth, a oedd wedi cefnogi Prydain yn y Rhyfel Mawr. Dywedodd Brangwyn y byddai'r paneli yn coffáu pobl a fu farw yn amddiffyn Prydain a'r Ymerodraeth, ac felly ei bod yn ymddangos yn naturiol y dylai bortreadu pobl, blodau, ffrwythau a phlanhigion tiriogaethau pell Prydain. 

Pan welsant y paneli, roedd Comisiwn Celf yr Arglwyddi yn unfrydol na ddylid eu derbyn, gan feirniadu’r themâu a’r cynnwys.Yr Arglwydd Crawford oedd yn fwyaf llafar ei feirniadaeth, a honnir iddo ddweud:

‘Dychmygwch, er mwyn popeth: bananas pum troedfedd, a mwncïod yn wên i gyd y tu ôl iddynt, mewn ystafell fel hon, a’i holl gysylltiadau hanesyddol. Efallai y byddai’r lluniau hyn yn gweddu’n iawn i glwb nos, ond nid fan hyn yn sicr yw eu lle’.

Y tu ôl i dirlun ffantasïol, paradwysaidd Brangwyn, mae trasiedi hanesyddol yn llechu, ac mae’r paneli yn goffâd o gryn bwys i’r Rhyfel Mawr. Dyma a ysbrydolodd Marc Reesi greu perfformiad uchelgeisiol, aml-gyfrwng sy’n creu llinyn cyswllt rhwng y Rhyfel Mawr, brwydrau hanesyddol a gwrthdaro heddiw. 

Yn ganolog i’r cyfan y mae Requiem gyda libreto gan Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton, fydd yn canu. Owen Roberts sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth, a honno’n deillio o gywaith gwreiddiol rhwng Roberts a’r diweddar Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd ddwywaith am Oscar (The Theory of Everything, Sicario).

7A22F712-6074-4909-BE4C-038A1AF54C65.jpeg?mtime=20180201111732#asset:189

Marc Rees - Llun : Hywel Harris

Yn ystod y perfformiad, bydd y gynulleidfa yn cael ei harwain drwy olygfeydd, myfyrdodau ac atgofion am ryfel, gan brofi cyrch milwrol, rhialtwch neithior briodas, dawns brotest ac angladd hynafol. I gloi’r cyfan, ceir Swper Cynhaeaf yn yr awyr agored, a hwnnw wedi’i guradu gan yr artist Owen Griffiths ac wedi’i seilio ar symboliaeth gwaith Brangwyn. Bydd y wledd yn cynnwys y llysiau a’r perlysiau cynhenid a welir yn y paneli, wedi’u tyfu’n lleol a’u gweini fel cawl. Bydd cyfle felly i’r gynulleidfa lyncu’r hyn sydd ar y paneli a myfyrio am y profiad y mae’r darluniau wedi’u creu. 

‘Pan fydd pob dyn yn mynd i ryfel, mae'n cychwyn cyfres o drawmâu pellgyrhaeddol – a’r rheini’n ymwneud â’r bobl y mae'n eu gadael ar ôl, y bobl y mae'n brwydro gyda hwy ac yn eu herbyn, y tir a'i flodau a'i blanhigion, ac yn fwyaf tebygol ef ei hun. Mae’r trawmâu hyn yn rhychwantu’r cenedlaethau, ac yn un o'r prif bethau y mae cymdeithas yn ddall iddynt ac yn eu gwadu.Mae nifer o sianeli’r cyfryngau yn gwneud yn fawr o‘n diffyg iachâd, gan obeithio ein creu yn bobl ofnus, gyda’n systemau nerfol sympathetig yn aflonydd o hyd. Mae hynny'n peri inni wneud penderfyniadau gwael ac i roi’r gorau i weithredu, gan leihau tosturi a chydweithio ar lefel cymdeithas, a’n hannog i weld ein hunain fel dioddefwyr... mae’r rhestr bron yn ddi-ben-draw.Ac rwy’n credu y gall artistiaid wneud gwaith gwych wrth adlewyrchu hyn i gyd.Efallai mai dyna beth yw paneli Brangwyn – dyma sut olwg sydd ar fyd wedi’i “iacháu”’.                                                                                              - Ben Brangwyn, cyd-sylfaenydd y Transition Network a pherthynas i Frank Brangwyn 

Mae Nawr yr Arwr / Now The Hero wedi’i gomisiynu gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Cafwyd cymorth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Canolfan Gelfyddydol Taliesin a Phrifysgol Abertawe sy’n cynhyrchu’r sioe, a hynny gyda chymorth hael Cyngor Abertawe, Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Mae’r prosiect hefyd yn cael cyllid gan y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth. Cronfa yw hon sy’n ceisio annog syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cynnyrch drwy weithio mewn partneriaeth, gyda’r nod o gael mwy o effaith a denu mwy o ymwelwyr i Gymru.