1918-2018
100 MLYNEDD YN DDIWEDDARACH
5 NOSON O THEATR EPIG
ABERTAWE
25-29 | 09 | 2018
5 noson o theatr epig a phrofiad i ymgolli ynddo a fydd yn dwyn y gynulleidfa ar daith ryfeddol, a hynny o Fae Abertawe i Neuadd Y Brangwyn.
Mawrth 25 – Sadwrn 29 Medi 2018
6.30pm-9.00pm
Tocynnau £15/£12
Bydd cynhyrchiad beiddgar Marc Rees,sy’n adrodd tair stori ryfel a’r rheini’n cydblethu, yn dod yn fyw gyda gwrthbwynt o heddwch a gobaith.Wedi ysbrydoli Rees y mae arwrgerdd hynafol, portread o filwr o Abertawe sy’n gwasanaethu heddiw, a Phaneli’r Ymerodraeth Brydeinig.
Yn ganolog i bob perfformiad y mae Requiem gyda libreto gan Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton, fydd yn canu.Owen Morgan Roberts sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth, a honno’n deillio o gywaith gwreiddiol rhyngddo a’r diweddar Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd am Oscar.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan bwysig iawn o flwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW, sef comisiwn celfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Dyma hefyd uchafbwynt Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.
Darllen mwy