Brangwyn Panels
Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig
Chwe blynedd wedi diwedd y Rhyfel Mawr, ymatebodd Tŷ’r Arglwyddi o’r diwedd gan gydnabod bod angen llenwi’r bwlch artistig yn y cofio ym Mhrydain. Rhoddodd y Tŷ gyfrifoldeb dros greu cofeb ryfel ym Mhalas San Steffan i’r Arglwydd Iveagh, a aeth ati i gomisiynu Frank Brangwyn i greu murluniau ar gyfer waliau gogleddol a deheuol yr Oriel Frenhinol. Ac yntau wedi astudio o dan adain Arthur Mackmurdo, William Morris a Siegfried Bing, tri o ffigurau mwyaf dylanwadol y byd dylunio yn y 1900au, teimlai'r Arglwydd Iveagh mai Brangwyn oedd yr artist mwyaf cymwys i gyflawni’r gwaith.Yn ogystal â’i gymwysterau, roedd Brangwyn eisoes wedi creu cofeb arall i’r Rhyfel Mawr.
Yn 1926, cyflwynodd Brangwyn ddau banel i’r Arglwydd Iveagh:‘A Tank in Action’ [Ffig. 1] a ‘Heavy Gun in action’. Roedd y ddau banel yn darlunio dwy frwydr, gan ddadelfennu’r cymeriadau a defnyddio codau Fortisiaeth. Dangosai'r rhain realiti rhyfel yn ei holl greulondeb, a gwrthododd Iveagh eu derbyn. Er gwaethaf hyn, comisiynwyd Brangwyn i greu cynllun newydd a fyddai’n dangos undod Prydain a chadernid yr Ymerodraeth Brydeinig. Cytunodd yr Arglwydd Iveagh na ellid ymyrryd mwy yng ngwaith yr artist ac na fyddai neb yn cael gweld y paneli cyn i’r cynllun gael ei gwblhau.
Aeth Brangwyn ati i greu cynllun yr Ymerodraeth Brydeinig mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r chwe phanel gwreiddiol (y rhai anorffenedig a wrthodwyd) ar thema rhyfel. Ym meddwl yr artist, diflannu’n raddol wnaeth trais y gweithiau cynharach. Roedd y rheini’n dangos rhyfel yn rym a reolai fywyd a marwolaeth, gan amlygu sut yr oedd brwydro’n dad-ddynoli pobl. Yn lle hynny, daeth byd newydd i fod drwy baneli’r Ymerodraeth Brydeinig.
Ar ôl i’r Arglwydd Iveagh wrthod y prosiect cyntaf, mae’n ymddangos i hynny ysbrydoli’r artist yn ddeallusol; cafodd Brangwyn weledigaeth gwbl newydd yn sgil hyn, gan newid ei gysyniad a’i strategaeth yn llwyr rhwng y comisiwn cyntaf a’r ail un. Yn y cyntaf, mae’n cyfeirio at gelf genedlaethol a moderniaeth drwy arddull gwbl Brydeinig:Fortisiaeth.Yn yr ail gomisiwn, mae’n bwrw golwg i’r gorffennol ac yn defnyddio dylanwadau mwy rhyngwladol, fel William Morris a’r Ysgolion Ffleminaidd.Yn lle’r llun naratif sy’n dogfennu, cyflwynodd baentiad yn llawn dryswch ac amwysedd, wrth i'r ffurf a’r cynnwys asio’n un.Os oedd yn rhaid cynrychioli rhyfel modern mewn ffordd fodern, mae’r trefedigaethau a’u prydferthwch yn ymddangos yn oesol. Unwaith y byddent wedi’u gosod ym Mhalas San Steffan, gwyddai Brangwyn y byddai ystyr newydd i’r paneli: byddai iddynt ddimensiwn dwys a byddai’r weledigaeth yn dod ynghyd ynddynt.
Mae’r newidiadau ffurfiol a deallusol hyn rhwng y comisiwn cyntaf a‘r ail un yn ein gwahodd i ofyn sut y mae'r artist yn cwestiynu natur y darluniau ochr yn ochr â maint y rhwyg?Pam fod Brangwyn yn rhoi tirlun llawn gwynfyd inni sydd mewn gwirionedd yn cuddio trasiedi hanesyddol?
Mae’n bosibl credu bod gwaith Brangwyn yn dangos iddo synfyfyrio’n hir ynghylch diben y gofeb.Does dim trawma yn y murluniau, ac nid ydynt yn cyflawni’r nod o goffáu. Yn hytrach, maent yn dathlu prydferthwch bywyd gwyllt a blodau trofannol ac yn rhoi delwedd o baradwys goll ar ffurf yr Ymerodraeth Brydeinig. Wedi erchyllter y rhyfel, byddai’r lliwiau’n fodd i’r artist gyfareddu’r byd drachefn, a dychwelyd at fyd natur, ac at yr hyn sy’n ddaionus ac yn llesol.
Drwy ei statws fel artist, dyhead Brangwyn yw dianc rhag cyfyngiadau cymdeithasol y lliaws. Ei nod yw cyflwyno delweddau coffaol newydd, gan ddilyn yn ôl troed Monet a’i lun Nymphéas [Ffig. 2] a grëwyd yn 1918 yn syth ar ôl y Rhyfel Mawr.
Cyflwynodd Monet fodel newydd; mae ei lun yn chwilio am y daioni sy’n gyffredin, gan ddangos na fyddai unrhyw bortread o’r brwydro yn ddigon i gyfleu maint yr erchyllter a wynebodd y milwyr.
Ym Mhaneli’r Ymerodraeth Brydeinig, nod Brangwyn oedd creu neges gyffredinol gan ddefnyddio iaith esthetig newydd, ac mae’n derbyn yn llwyr gysyniad newydd Monet o gofeb a’i diben.
Roedd y rhyfel yn rhywbeth cyfannol a rhyngwladol a effeithiodd ar fywydau pawb; mae’r artist yn ymateb i’r llanast a’r dinistr drwy gyflwyno gwledd o addurniadau, gan gyfleu dealltwriaeth o’r byd drwy brofiad esthetig. Ym Mhaneli’r Ymerodraeth Brydeinig, mae Brangwyn yn ychwanegu dimensiwn newydd. Mae’r planhigion a’r blodau toreithiog yn creu masg sy’n cuddio'r ffaith mai gwir wrthrych ei ddarlun yw ei deyrnged i’r meirw.
Yn y cyd-destun hwn, lle mae’r cysyniad o genedligrwydd yn anodd i’w weld, darluniodd Brangwyn gymysgedd ethnig yr Ymerodraeth Brydeinig.Yn y trydydd panel sy’n cynrychioli Canada [Ffig. 3], gallwn weld dau ddyn Ewropeaidd, plentyn Affricanaidd a thair menyw o dras Asiaidd yn cydweithio, ac mae hynny’n gwrthod y syniad bod yn rhaid i goffáu fod yn weithred genedlaetholgar.Rhwng y ddau ryfel byd, roedd cwestiynau ynghylch coffáu a chofio yn bwnc llosg o bwys.Roedd Brangwyn yn chwilio am rywbeth darluniadol gwahanol i’r cofebion confensiynol hynny, ac am rywbeth a fyddai’n drysu ac yn llethu’r sawl sy’n gwylio.
Dyluniodd Brangwyn baneli’r Ymerodraeth Brydeinig fel cyfrwng i uno cof torfol pobl; maent yn llinyn cyswllt rhwng dyn a’i hanes ac yn ymdrech i ailuno tiriogaethau Prydain.Drwy wrthod creu darlun epig, buddugoliaethus, lle byddai’r alegori'n cyd-fynd â phortread o arwyr cenedlaethol, mae’n ymddangos bod Brangwyn yn raddol wedi rhoi’i fryd ar ddull a oedd yn ffafrio’r daioni sy’n gyffredin, gan ddangos maint y coffáu torfol ac ymbellhau oddi wrth gwir natur y digwyddiad.
Mae is-ddimensiwn emosiynol i’r darlun, gan ei fod yn gwahodd y sawl sy’n gwylio i ddarllen rhwng y llinellau, rhwng breuddwyd a realiti.Mae Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig yn rhoi gweledigaeth ddelfrydol o’r tiriogaethau, gan gynrychioli’r byd fel y dylai fod, yn hytrach nag fel y mae.Mae darlunio breuddwyd yn hytrach na realiti yn galluogi Brangwyn i agor drws posibiliadau.Nid yw’r artist yn cynrychioli’r “real”. Yn hytrach na chael ei demtio i greu rhithiau gweledol sy’n gelwydd, mae Brangwyn yn defnyddio breuddwydion fel ffordd arall o gyfleu gwirionedd penodol. Mae’r artist yn creu’r byd hwn o’i ben a’i bastwn ei hun, ond gan ei seilio’n gadarn ar gysyniad a dychymyg a etifeddwyd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bryd hynny, roedd breuddwydion yn cael eu hystyried yn gwbl groes i resymeg ac yn bethau a allai adfer diniweidrwydd coll wrth i gymdeithas ddiwydiannol ddad-ddynoli pobl.O bryd i’w gilydd, mae’r freuddwyd hefyd yn troi’n hunllef, sydd wedyn yn datgelu sawl realiti poenus.
Yn sgil datganiad William Blake mai'r freuddwyd yw gwrthbwynt dallineb, mae’n bosibl wedyn dehongli paneli’r Ymerodraeth Brydeinig o’r newydd. Yn wir, mae Brangwyn yn cydweld â Blake yn sgil ei gred yn undod organig y byd – mae byd natur yn fan lle mae gan bawb yr hawl i freuddwydio.Serch hynny, yn dra pharadocsaidd, mae’n ymddangos yn y paneli bod byd natur ar fin llyncu’r cymeriadau dynol.
Mae’n bosibl gweld bod nifer y cymeriadau ym mhob panel yn newid. O banel Canada i banel India, mae nifer y cymeriadau’n lleihau nes nad oes ond dau neu dri ar ôl, a’r rheini wedi’u cuddio’n gynyddol gan fwy a mwy o lystyfiant.Ym mhanel Teyrnas Siám [Ffig. 4], mae’r artist yn hepgor dyn yn llwyr. Wrth i’r elfen ddynol ddiflannu yn y fath fodd, mae Brangwyn yn drysu’r sawl sy’n gwylio.
Mae hyn yn datgelu dimensiwn arall yn y gwaith, wrth i rai o’r cymeriadau edrych tuag at y sawl sy’n gwylio gyda golwg aflonydd, gyhuddgar arnynt, gan ein herio. Heb ddim i roi syniad o ofod nac amser inni, does dim modd dianc rhag y ddelwedd, a does yr un cliw allanol i’r sawl sy’n edrych ar y gwaith.Yng nghanol yr holl blanhigion hyn, mae’n ymddangos bod y freuddwyd yn magu dimensiwn newydd, od: mae’r ddelwedd yn ein llethu, gan nad yw byd natur bellach yn fan o ryddid. Yn hytrach mae’n lle caethiwus sy'n carcharu'r cymeriadau.Mae'r darlun afrealistig hwn o fyd natur yn drysu’r sawl sy’n gwylio:beth yn union sy’n cuddio y tu ôl i'r holl lystyfiant hwn?Yn ôl Baudelaire, mae’r dyn modern wedi’i rwygo, ac mae ôl hyn wedi bod arno ers gadael Eden. Y drasiedi ddynol felly yw’r ymgais i ganfod y baradwys goll hon drachefn.Mae Brangwyn yn mynegi’i hun ar sail y syniad canolog hwn o baradwys goll.
Mae dimensiwn cyhoeddus y gwaith, mewn adeilad o bwys symbolaidd i genedl Prydain, yn gwahodd yr artist i greu araith a honno’n gorfod bod yn dorfol ei natur.Mae Clare Willsdon, yr hanesydd celf, yn pwysleisio: ‘o blith murlunwyr Prydain yn nechrau’r ugeinfed ganrif, efallai mai Brangwyn yn fwy na neb a ddatblygodd gelfyddyd yr ‘awgrym’ a ‘melodïau’ mewn ffurf a lliw i'w llawn botensial’.
Her arall i Syr Frank Brangwyn oedd gwireddu'r angen penodol am ''Grand Décor'' er mwyn i’r sawl sy’n gwylio ymgolli yn y gwaith.Mae Brangwyn yn creu deialog gymhleth rhwng y sawl sy’n gwylio a’r darlun, gan beri inni ymgolli yn y byd o’n blaen, yn y baradwys goll, a honno’n llawn lliwiau llachar a llinellau troellog. Mae hynny’n rhoi profiad mwy corfforol na deallusol i’r sawl sy’n gwylio.Nid adrodd stori yw unig ddiben y darlun bellach; yn hytrach mae’n rhywle i gyfleu profiad o siapiau a lliwiau.Mae’r ffaith bod y darluniau mor doreithiog yn golygu nad oes cyfle i’r llygad ddianc. Mae Brangwyn yn peri i’r sawl sy’n gwylio deimlo’n glawstroffobig, ac wrth i’r llystyfiant fynd yn fwy a mwy trwchus o’r panel cyntaf i’r panel olaf, mae’r teimlad hwnnw’n gwaethygu. Drwy'r cyd-chwarae rhwng lliwiau a newidiadau mewn fformat, mae’r artist yn creu ansefydlogrwydd. Law yn llaw â’r cromlinau, mae hyn yn creu teimlad o bendro ac effaith rithiol.
Mae Brangwyn yn cyfleu’r syniad o Ymerodraeth heb fod iddi ddechrau na diwedd, a man oesol lle na fydd yr haul byth yn machlud.Mae’n dychwelyd at fyd natur er mwyn cael gwared ag unrhyw raniadau cymdeithasol.Yn wahanol i’w ragflaenwyr a greodd weithiau i Balas San Steffan, gwrthododd greu darlun ysgolheigaidd. Drwy ei roi ei hun mewn gwynfyd, a thrwy greu llun sy’n hygyrch i bawb, ei nod yw defnyddio iaith sy’n democrateiddio celfyddyd gain.Disgrifiodd Robert Lamb ei gyfaill fel: ‘Sosialydd Cristnogol bron ar lun Tolstoy’. Fel cyn-fyfyriwr i William Morris, dilynodd Brangwyn ddelfrydau yn nhraddodiad athronwyr dyneiddiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Yn unol â’i argyhoeddiadau, datblygodd ddarlun a oedd yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion, a chyfunodd ddiwylliannau i ddangos ei ffydd yn y ddynol ryw.
Yn y Paneli, mae Brangwyn yn dathlu byd natur yn ei holl amrywiaeth a’i holl gyfoeth.Mae’r modd y caiff byd natur ei ddarlunio’n ymddangos yn go wyllt ar y dechrau, ond mewn gwirionedd mae’r cyfan dan reolaeth lwyr.Mae modd adnabod y rhan fwyaf o’r rhywogaethau. Er enghraifft, fe welwn y blodyn ixora o Asia, neu’r gloxinia tropicale o America.Ceir nifer o flodau sy’n gyfarwydd yn Ewrop hefyd, fel chrysanthemums a camelias.Mae’r planhigion o dir yr Ymerodraeth yn symbol o chwyldro diwydiannol yn ogystal â gwyddonol.Datblygir y syniad hwn ym mhanel Canada [Ffig. 3 a 5], wrth i ddau ddyn ddefnyddio llif i dorri boncyff coeden ewcalyptws anferth.Plannwyd coed ewcalyptws, sy’n tyfu’n gyflym, mewn nifer o diriogaethau i greu deunydd adeiladu a choed tân i'r poblogaethau a oedd yn prysur gynyddu.Ar y pryd, roedd diwydiannau Prydeinig yn defnyddio cynhyrchion a mewnforion naturiol bron yn gyfan gwbl.Ym mhanel India, gwelir palmwydden yn y cefndir, ac roedd galw mawr am honno ar y pryd.Gwyddai Brangwyn pa mor bwysig oedd y coed hyn, ac roedd olew’r palmwydd yn cael ei ddefnyddio i iro peiriannau diwydiannol.Roedd gan Brangwyn wybodaeth helaeth am fotaneg ac am y modd y câi planhigion eu defnyddio at ddibenion gwyddonol ar hyd a lled yr Ymerodraeth, a defnyddiodd y wybodaeth hon wrth ddewis ei blanhigion.Mae’r paneli yn ymddangos ar ffurf gardd ffrwythlon. Fel dylunydd y tirlun, mae Brangwyn yn dewis planhigion sy’n gweddu, gan ddarlunio’u nodweddion yn ofalus.
At ddibenion paneli India, mae’n ymddangos bod Brangwyn wedi ymweld â Sŵ Llundain, er mwyn braslunio anifeiliaid estron a rhyfeddol fel y rhinoseros [Ffig. 6] a'r eliffant [Ffig. 7], gan guddio’r rheini wedyn yn y llystyfiant yn ei ddarluniau.Wrth wneud ymchwil baratoadol, creodd yr artist gyfres o siapiau a phatrymau a ddefnyddiodd maes o law yn y paneli.
Roedd ffotograffiaeth hefyd yn rhan bwysig o’r broses o greu Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig.Yn y 1990au, daeth Paul Cava, y ffotograffydd a’r masnachwr celf o America, o hyd i gasgliad pwysig o dros 350 o ffotograffau gan Frank Brangwyn.Ar gyfer Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig, dim ond 22 o luniau oedd yr artist wedi’u tynnu, ac mae’r rheini sydd wedi goroesi wedi’u tynnu â chamera Kodak. Roedd hwn yn hawdd ac yn rhad i’w ddefnyddio, gan roi cyfle i Brangwyn ddylunio perthynas newydd gyda realiti ac amser.At ddibenion Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig, daeth nifer o fodelau i'w weithdy yn Ditchling (Sussex).Fodd bynnag, yn groes i’w arfer, ni ddefnyddiodd fodelau proffesiynol. Chwiliodd yn hytrach am gymeriadau â golwg wahanol arnynt.
Wrth wneud paratoadau ar gyfer trydydd panel Canada, ffotograffwyd Marco Yafrate [Ffig. 8] gan Brangwyn. Eidalwr oedd hwn a werthai gnau castan, ei gorff yn fain, a phwysau’r llwyth ar ei ben yn amlygu hynny yn y ffotograff.At hynny, am y tro cyntaf, defnyddiodd fodelau o gefndiroedd ethnig a’u gwahodd i aros ag ef yn Ditchling. Yn eu plith roedd reslwr o India’r Gorllewin a’i dri mab ynghyd â morwyn a oedd yn frodor o Barbados [Ffig. 9]. Disgrifiodd Brangwyn y fenyw hon fel menyw “Grand Rubenesque” yn sgil ei chorffolaeth fawr.
I Brangwyn, ffotograffiaeth yw man cychwyn myfyrio pellach. Bydd syniadau’r artist yn datblygu’n raddol o’r brasluniau paratoadol i ddimensiwn terfynol y gwaith.Mae’r artist yn credu bod y ffotograffau yn rhoi cyfle i archwilio gwahanol ystumiau; maent yn bodoli i brocio’r cof, ond heb ddisodli’r brasluniau paratoadol mewn unrhyw ffordd. Gan ddwyn ynghyd ffotograffau ac astudiaethau paratoadol, llwyddodd Brangwyn i greu stoc o ddarluniau go iawn, a dyna’r man cychwyn er mwyn arbrofi, a’r cam cyntaf wrth ddylunio’i waith.Mae rhyw amwysedd i’w arferion sy’n ategu ei gilydd: manylder ffotograffig i ddechrau, gan ddadelfennu’r motiffau’n raddol gyda phob cam wrth greu’r brasluniau paratoadol, cyn dod â’r cyfan ynghyd ar y diwedd.
Er i Dŷ’r Arglwyddi wrthod paneli’r Ymerodraeth, nid dyma ddiwedd y daith i Brangwyn. Parhaodd â'i yrfa ryngwladol gan ddenu comisiynau eraill o bwys.Yn sgil eu maint a’u huchelgais, bu Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig ar feddwl Brangwyn am gyfnod o dros bum mlynedd tan iddynt gyrraedd Abertawe yn 1933. Mae’r codau a greodd yn y paneli i’w gweld wedyn yng ngweddill ei waith, gan droi’n dipyn o obsesiwn i’r artist. Yn y comisiwn dilynol a gafodd, adlewyrchodd Baneli’r Ymerodraeth a hynny'n uniongyrchol ar brydiau, gan ailadrodd yr un lliwiau a'r un themâu darluniadol. Bron ei fod yn lladrata o'i waith ei hun.
Yn 1930, yn fuan wedi clywed barn yr Arglwyddi, cafodd Brangwyn gomisiwn i addurno llong newydd, yr SS-Empress of Britain. Ac yntau’n artist amlddisgyblaethol enwog, gwahoddwyd Brangwyn i ddylunio tu mewn y llong, gan gynnwys sawl panel addurniadol. Gwaetha’r modd, cafodd y llong ei suddo gan un o longau tanfor yr Almaen yn 1940; fodd bynnag, mae ffotograff unigryw o’r décor wedi goroesi.Ynddo fe welwn bum panel addurniadol, o’r enw ‘A Vision of the Lavish Gifts of Mother Earth', lle mae menywod â chyrff nobl i’w gweld yn blodeuo yng nghanol llystyfiant ffrwythlon.Mae cyfres o astudiaethau [Ffig. 10] o’r paneli hyn yn dangos parhad uniongyrchol o baneli San Steffan: toreth o blanhigion, yr un cromlinau troellog, a’r un lliwiau dramatig.Mewn un llun mae’n bosibl gweld cymeriad menyw sy’n cario blodau haul. Roedd y fenyw hon eisoes i’w gweld yng nghanol panel cyntaf India [Ffig. 11], ac mae’n ailymddangos dro ar ôl tro yng ngwaith Brangwyn wedyn.
Drwy addurno’r ‘SS-Empress of Britain’, daeth Brangwyn o hyd i ffordd o fynd â’i waith ar daith, a rhoi cynulleidfa ryngwladol newydd iddo.Wrth i’w enw da rhyngwladol dyfu, cafodd Brangwyn gomisiwn yn 1934 gan John D Rockefeller i greu panel anferth yng nghanolfan newydd Rockefeller yn Efrog Newydd. Ar y panel, darlunnir dwy fenyw noeth, un o’r cefn yn diogi yng nghanol ffrwythau o bob math, a’r llall o’r tu blaen yn dangos ei bron. Unwaith eto fe welwn pa mor amlwg yw'r cromlinau a’r ‘gêm guddio’ sydd mor nodweddiadol o gyfansoddiad Paneli’r Ymerodraeth.
Yn dilyn hyn, peintiodd Brangwyn waith o’r enw ‘The Printed World Makes the People of the World One’ [Ffig. 12], a hynny ar gyfer cyntedd cwmni Odhams Press yn Llundain.Drachefn cafodd Brangwyn ysbrydoliaeth o Baneli’r Ymerodraeth, gan ddefnyddio'r un codau darluniadol, yr un llinellau troellog a’r un harmonïau lliwgar, llachar. Y tro hwn eto, mae cymeriadau sy’n cario basgedi i’w gweld, yn ogystal â chymeriadau hanner noeth sy’n casglu ffrwythau, er mwyn cyfleu digonedd a ffrwythlondeb. Yn ei neges, mae Brangwyn yn pledio cynaliadwyedd. Drwy ddefnyddio’r codau darluniadol a gyflwynodd i San Steffan, mae’n creu symbol o brotest yn erbyn yr Arglwyddi ceidwadol.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai mai peintio trasiedi’r tirlun a wnaeth David Friedrich. Ym Mhaneli’r Ymerodraeth Brydeinig, mae Brangwyn yn peintio’r drasiedi sydd y tu ôl i’r olygfa ei hun.
Pan nad oedd modd i Brydeinwyr greu darluniau hanesyddol, aethant ati i fynegi eu hunain drwy beintio tirluniau, gan ddilyn llwybr a gafodd ei fraenaru gan Turner a Constable.Drwy ei ddewisiadau darluniadol ac iconograffig, gallwn ragdybio bod gan Brangwyn ddyhead i adnewyddu iaith weledol cofebion yn Lloegr.Mae’r sawl sy’n gwylio yn canfod darluniau cudd y tu ôl i brydferthwch y bywyd gwyllt: erchylltra rhyfel a gwladychu.
Yn San Steffan, rhoddodd yr artist lai o bwys ar y motiff gan guddio’r gwrthrych yn y cefndir; mae’r gweithiau wedi’u gosod ar gyfres o fasau plastig, sy'n amlygu dau ddimensiwn y panel.Mae’n gwahodd y sawl sy’n gwylio i fyw breuddwyd drwy anghofio am bopeth bydol a’r ffin rhwng myth a realiti.Mae modd gweld llinyn cyswllt rhwng y penderfyniad hwn i wrthod creu darlun naratif a fyddai’n adrodd stori gwladychu gydag atgofion Brangwyn o’i flynyddoedd ffurfiannol o dan adain William Morris. Dyna sut y dysgodd y dylai’r ffurf fod yn drech na’r gwrthrych er mwyn creu décor llwyddiannus.Gan droedio’r tir amwys rhwng traddodiad a’r avant-garde, creodd Brangwyn gelfyddyd a oedd yn symud yn wastadol gyda’r oes.Drwy edrych o safbwynt cyson newydd o hyd, mae’n awyddus i anghofio am ddelweddau erchyll y Rhyfel Mawr ac yn eu lle mae’n creu bwrlwm o liw a bywyd.
Enora Le Pocreau