Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

NAWR AM
FWY

21-29 Medi 2018, Abertawe

Bydd Nawr am Fwy yn rhoi cyfle i ymwelwyr ymwneud â thema Nawr Yr Arwr dros y penwythnos i gyd. Mae Abertawe yn ddinas llawn amrywiaeth sy’n fwrlwm o dreftadaeth, diwylliant a chreadigrwydd. Mae’n bair o amgueddfeydd, orielau, parciau a theatrau, a bydd y rheini, yn eu ffyrdd eu hunain, yn dehongli effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthynas pobl â’i gilydd. Fe wneir hyn drwy ddigwyddiadau arbennig, arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i’r teulu, celf gyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau.

I gyd-fynd â’r prif berfformiadau, bydd gŵyl gelfyddydol fechan yn cael ei chynnal dros benwythnos. Fydd Nawr y Penwythnos yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa fwynhau thema Nawr Yr Arwr dros benwythnos cyfan. Mae Abertawe yn ddinas llawn amrywiaeth sy’n fwrlwm o dreftadaeth, diwylliant a chreadigrwydd. Mae’n bair o amgueddfeydd, orielau, parciau a theatrau, a bydd y rheini, yn eu ffyrdd eu hunain, yn dehongli effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthynas pobl â’i gilydd. Fe wneir hyn drwy ddigwyddiadau arbennig, arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i’r teulu, celf gyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau.

Bydd holl sefydliadau diwylliannol y ddinas, yn fawr a bach, yn cyfrannu at Nawr y Penwythnos, a phob un yn ymateb yn ei ffordd ei hun i’r brif thema – sef effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthnasau pobl â’i gilydd. Fe fyddan nhw’n ymateb hefyd i’r paneli eu hunain. Yn ystod Nawr y Penwythnos, fe gynhelir digwyddiadau arbennig am un tro’n unig, ynghyd ag arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i’r teulu, celf gyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau.

Artistiaid cyfoes fydd yn gyfrifol am y rhain, a hynny mewn lleoliadau niferus drwy Abertawe. Bydd arddangosfa ‘End of Empire' Yinka Shonibare MBA (RA) yn ganolog i Nawr y Penwythnos, a honno i’w gweld yn Oriel Glynn Vivian. 14-18 NOW sydd wedi comisiynu'r gwaith hwn hefyd. Mae’n waith hynod o arwyddocaol, ac yn wrthbwynt o bwys i NYA \ NTH – mae’n drosiad o ddeialog, cydbwysedd a gwrthdaro.

Bydd mynediad YN RHAD AC AM DDIM i’r holl leoliadau a’r prosiectau sy’n rhan o Nawr y Penwythnos.

NAWR Y
PERFFORMIAD

Prosiect sy’n cyfuno sawl math o gelfyddyd yw Nawr Yr Arwr / Now The Hero, a hwnnw’n cael ei gynnal ar un safle penodol. Marc Rees, yr artist aml-ddisgyblaeth sy’n hanu o Abertawe, sy’n gyfrifol am y prosiect ar ôl cael gwahoddiad personol gan 14-18 NOW i greu gwaith celfyddydol Cymreig o bwys i goffáu’r Rhyfel Mawr. Bydd y cyfan yn cael ei gynnal yn Neuadd Brangwyn, ac yn yr ardal o’i hamgylch, adeg y Cynhaeaf ym mis Medi 2018.

Darllen mwy