Roedd Brangwyn yn artist amlddisgyblaethol o fri; roedd yn ddyluniwr, yn ysgythrwr, yn peintio lluniau dyfrlliw, ac yn creu gwydr lliw, crochenwaith, tecstiliau a dodrefn, ymhlith pethau eraill. Roedd hefyd yn wneuthurwr print galluog, a dyna’r ffurf a fydd yn cael sylw fan hyn. Wedi’u hysbrydoli gan yr holl gyfryngau print a greodd Brangwyn, gan gynnwys ysgythru, torluniau a lithograffeg, bydd artistiaid Gweithdy Argraffu Abertawe yn ymateb i’r cyfoeth gweledol yn y paneli toreithiog. Byddwn yn creu corff o waith yn dilyn hyn, gan wahodd cydweithwyr i arddangos eu gwaith hefyd, a hynny yn y trysor bach hwn o le trwy gydol Nawr Yr Arwr.
Dydd Sadwrn 29 Medi o 12pm
Digwyddiad am ddim