Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

NAWR Y
STORI

Y ffilm fer, ‘Manchild’, yw sylfaen y perfformiad – mae'n dilyn Rose Davies, yr artist o Abertawe, wrth iddi greu braslun o’r Capten David Williams. Milwr a aned yn Abertawe yw David, ac yntau’n gwasanaethu yn Ail Fataliwn y Reifflau. Ef fydd yn chwarae rhan y milwr cyfoes yn y cynhyrchiad.

Mae Rose yn ei disgrifio’i hun fel ‘heddychwraig a ffeminydd adain chwith’, ond mae David a hi wedi meithrin perthynas arbennig iawn dros ddegawd, wrth iddi dynnu ei lun drwy ysgythriadau, monoteipiau, lluniau sychbwynt, torluniau pren, siarcol, lluniau pastel, lluniau paent olew, cyfryngau cymysg, lluniau graffit, brasluniau a lluniau pensil. Mae Rose wedi gweld David yn aeddfedu ac yn newid yn sgil ei brofiadau yn gwasanaethu.Mae hi wedi cofnodi’r canlyniadau mewn casgliad rhyfeddol o bortreadau monoprint. ‘Cyfres y Milwr’ yw’r enw mae hi wedi’i roi ar y rhain. 

Mae’r ffilm ‘Manchild' yn olrhain y berthynas arbennig sy’n datblygu rhwng yr artist o heddychwraig a’r milwr wrth iddynt rannu a thrafod eu barn am y byd yn ystod y broses o dynnu llun.

George Morris, sy’n gynhyrchydd cymharol newydd, sydd wedi creu ‘Manchild’. Enillodd wobr am y ffilm orau gan fyfyriwr yng ngŵyl Ffilmiau Byrion Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, a hynny am ‘Memories of War’.Mae’r ffilm yn olrhain profiad cyn-filwr ar y ffrynt, ac wedi’i hysbrydoli gan farddoniaeth Edward Poynter, a wasanaethodd fel Swyddog Troedfilwyr ym Myddin Prydain ac a ymladdodd yn Irac ac Affganistan.

Rosie Davies

Ar ôl graddio o’r Coleg Celf ar ddiwedd y saithdegau, fe lwyddais i oroesi pync, ôl-foderniaeth a thwf Thatcheriaeth heb i’r rheini amharu ar fy ngwerthoedd celf traddodiadol, a’m gwerthoedd wrth dynnu llun. Gan arbenigo mewn printiadau, fe gariais ymlaen i dynnu lluniau ar ôl gadael y coleg, ond fel nifer o artistiaid ifanc ar y pryd, fe ddatblygais ail yrfa hefyd, gan dreulio blynyddoedd yn gweithio gyda phobl fregus iawn, a phobl oedd wedi'u heithrio’n llwyr o gymdeithas. Mae hynny wedi dylanwadu’n ddwfn iawn arnaf.Gan ddod ar draws paneli Frank Brangwyn yn ifanc (diwrnodau gwobrau diddiwedd yn yr ysgol), rwyf wastad wedi bod yn hoff o weithio gyda modelau, a dechreuais dynnu llun Dave tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd yn fyfyriwr yn y Fyddin Diriogaethol. Fe gariais ymlaen i weithio gyda Dave ar ôl iddo ddechrau ar ei yrfa fel milwr.Rwyf wedi datblygu corff helaeth o waith wedi’i seilio ar y cysyniad o Filwr, a’m lluniau o Dave oedd man cychwyn hynny. Wrth imi ei wylio’n aeddfedu o fod yn fachgen ifanc i fod yn filwr yn ei lawn dwf, mae’r broses hon wedi herio fy rhagdybiaethau personol, gwleidyddol ac artistig. 

Yr Is-Gapten David Williams

Dechreuais fodelu ar gyfer grŵp o artistiaid lleol yng nghanol 2007. Roeddwn i’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar y pryd ac newydd ymuno â’r Fyddin Diriogaethol (y Lluoedd Wrth Gefn bellach). Rwyf wastad wedi gwerthfawrogi celf ond heb fod yn un da am greu celf fy hun, felly mae’n wych gallu cyfrannu at y gymuned gelf mewn ffordd uniongyrchol fel hyn. Roedd Rosie yn dod i’r grŵp celf yn selog, ac roedd ei gwaith bob tro’n gafael, o’i darnau pensil realistig i ddarnau argraffiadol iawn mewn sialc a phastel. Wrth i fy nyletswyddau milwrol gynyddu, gan gynnwys taith i Affganistan yn 2010 ac ymuno â’r Fyddin Barhaol yn 2013, mae Rosie wedi gofyn imi fodelu ar gyfer sawl prosiect. Mae’r cyfan yn waith caled, ond mae’n talu ar ei ganfed, ac yn dod law yn llaw â sgwrs dda a rhywbeth blasus wedi’i bobi bob tro. Yn sgil hynny, mae gennym gorff unigryw o waith sy’n rhoi cipolwg ar unigolyn yn gwasanaethu yn y fyddin dros gyfnod o ddeng mlynedd, gan symud o'r Cloddwyr i’r Swyddogion, ac o’r Fyddin Wrth Gefn i’r Fyddin Reolaidd. Rwy’n credu bod y gwaith hwn yn arwyddocaol iawn. 

George Morris

Fel cynhyrchydd y ffilm, ces fy nenu’n llwyr gan y berthynas ryfedd yma rhwng dwy bersonoliaeth gwbl wahanol ar un wedd, tan imi sylweddoli bod Rose a Dave yn rhannu’r un brwydrau mewnol wrth ymgodymu â’u hunaniaeth a’u barn. Mae gwylio sut y mae’r gwaith gyda Dave wedi datblygu dros y deng mlynedd ddiwethaf wedi creu llinell amser wrth glywed barn Rosie am ryfel, dynion a gwleidyddiaeth, Mae hefyd wedi rhoi darlun inni o Dave yn newid o fod yn fachgen i fod yn filwr i fod yn arwr. Rwy’n gallu uniaethu’n enwedig â'r gwrthrych, gan i minnau ddod o fewn trwch blewyn i ymuno â’r Fyddin yn un o’u swyddfeydd gyrfaoedd yn ddeunaw oed. Rwyf wedi dilyn llwybr tebyg i un Rose a Dave wrth iddyn nhw geisio deall pwy ydyn nhw a beth yw ystyr bywyd.

Brangwyn Panels

‘Dyluniodd Brangwyn Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig fel cyfrwng i uno cof torfol pobl; maent yn llinyn cyswllt rhwng dyn a’i hanes ac yn ymdrech i ailuno tiriogaethau Prydain.Drwy wrthod creu paentiad epig godidog, lle bydd yr alegori’n gymysg ag addoli arwyr cenedlaethol, mae’n ymddangos fod Brangwyn yn raddol wedi mabwysiadu dull sy’n dueddol o ffafrio daioni cyffredin... ei nod oedd creu neges oesol drwy ddefnyddio iaith esthetig newydd.Roedd y rhyfel yn rhywbeth cyfannol a rhyngwladol, a effeithiodd ar fywydau pawb; mae’r artist yn ymateb i’r llanast a’r dinistr drwy gyflwyno gwledd o addurniadau, gan gyfleu dealltwriaeth o’r byd drwy brofiad esthetig...’  -  Enora Le Pocreau


Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig

Mae Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig yn enghreifftiau pwysig o waith Syr Frank Brangwyn RA (1867–1956). Mae Neuadd Brangwyn ei hun, sef lleoliad canolog y prosiect, yn neuadd gyngerdd o bwys ac mae hanes difyr dros ben i'r paentiadau. 

Yn ystod y Rhyfel Mawr, lluniodd Brangwyn dros 80 o ddyluniadau ar gyfer posteri propaganda (er nad oedd yn artist rhyfel swyddogol), ac achosodd ei boster annymunol yn darlunio Tommy yn bidogi un o filwyr y gelyn (“Put Strength in the Final Blow: Buy War Bonds”) gryn dramgwydd ym Mhrydain a’r Almaen.Dywedir bod y Kaiser ei hun wedi rhoi pris ar fywyd Brangwyn ar ôl gweld y ddelwedd.

Yn 1924, penderfynodd Tŷ’r Arglwyddi goffáu’r Rhyfel Mawr drwy gomisiynu gwaith celf newydd ar gyfer yr Oriel Frenhinol ym Mhalas San Steffan, Llundain, a dewiswyd Brangwyn i’w greu.Ei fwriad oedd bywiogi'r lle gyda llun addurniadol a fyddai'n cynrychioli gwahanol diriogaethau a gwahanol rannau’r Ymerodraeth Brydeinig. Cynhyrchwyd un ar bymtheg o weithiau mawr a ymledai dros 280 m2, ond gwrthododd Tŷ’r Arglwyddi’r rhain gan eu bod yn ‘rhy lliwgar a bywiog’ i’r lleoliad ac yn ‘portreadu’r brodorion mewn ffordd rhy urddasol’. Daeth hyn yn bwnc llosg cyhoeddus; y farn oedd bod y cynllun yn anaddas ac fe’i gwrthodwyd.

Gan barchu enw da Brangwyn a’i gysylltiadau drwy ei rieni â Chymru, mynegodd dinas Abertawe ddiddordeb yn y paneli, gyda’r bwriad o’u gosod yn adeilad newydd Neuadd y Ddinas. Ar ôl llwyddo yn hyn o beth, agorwyd Neuadd Brangwyn ynghyd â Neuadd y Ddinas ym mis Hydref 1934. Fel rhan o’r gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer Nawr Yr Arwr \ Now The Hero, comisiynwyd erthygl gan Enora Pocreau, sy’n arbenigo ar waith Brangwyn.Mae'r erthygl yn trafod sut y mae trasiedi hanesyddol yn llechu mewn gwirionedd y tu ôl i dirlun ffantasïol, paradwysaidd Brangwyn, a’r modd y mae’r paneli yn goffâd o bwys i’r Rhyfel Mawr

Darllen mwy

CERDDORIAETH

Mae Nawr Yr Arwr yn gam arall ar daith greadigol Marc Rees wrth greu theatr sy’n ymateb i’r lleoliad, drwy osod elfen gerddorol yn greiddiol i’r prosiect y tro hwn.

Bydd hyn ar ffurf Requiem i ymgolli ynddi sydd wedi’i chyfansoddi gan Owen Roberts, a honno’n deillio o gywaith gwreiddiol rhwng Jóhann Jóhannsson, y cyfansoddwr o Wlad yr Iâ a enwebwyd am Oscar (‘The Theory of Everything’, ‘Sicario’ ac ‘Arrival’), ar y cyd â’r cyfansoddwr o Gymru, Owen Roberts. 

Owen Sheers, yr awdur o Gymru, fydd yn gyfrifol am y libreto, a Polyphony, côr enwog Stephen Layton, fydd yn canu. 

Jóhann Jóhannsson

Polyphony

Stephen Layton

Owen Morgan Roberts

Y GEIRIAU

Y Gododdin

Mae ‘Y Gododdin’ wedi ysbrydoli artistiaid, beirdd ac awduron Cymru ers i Aneurin gyfansoddi’r arwrgerdd yn 600 OC.Dyma’r darn hynaf o farddoniaeth Gymraeg sy’n goroesi, a hwnnw’n adrodd hanes 300 o ryfelwyr Celtaidd yn dod ynghyd o lefydd mor bell â Phrydyn a Gwynedd er mwyn ymosod ar Gatraeth (Catterick heddiw).Ar ôl sawl diwrnod yn brwydro yn erbyn byddin enfawr y gelyn, cafodd bron y cyfan o’r milwyr eu lladd. Mae’r gerdd yn galarnadu'r golled hon, gan ganmol eu gwroldeb ac anrhydeddu eu dewrder yn y frwydr.

Roedd ‘Y Gododdin’ yn ddylanwad mawr ar David Jones, ac roedd ei gerdd hir ‘In Parenthesis’ yn ymateb i’r gyflafan a welodd ac yntau’n droedfilwr yn y Rhyfel Mawr.Mae dyfyniad o’r ‘Gododdin’ yn ymddangos cyn pob rhan o’r gerdd.

Mae cerdd Tony Conran, ‘Elegy for the Welsh Dead, in the Falklands Islands, 1982', yn agor gyda’r llinell ‘Men went to Catraeth’, gan ddefnyddio’r gerdd wreiddiol i sylwebu ar wrthdaro cyfoes.

Cafodd Owen Sheers, awdur y libreto ar gyfer Nawr Yr Arwr \ Now The Hero, hefyd ei ysbrydoli gan ‘Y Gododdin’ wrth ysgrifennu ‘Pink Mist’.Mae Sheers wedi addasu penillion o’r ‘Gododdin’ a’u hailffurfio i adlewyrchu’r Rhyfel Mawr.

Mae dylanwad ‘Y Gododdin’ i’w weld drwy holl naratif Nawr Yr Arwr \ Now The Hero, ac mae’n waith sydd wedi ysbrydoli Marc Rees ers iddo berfformio yn y cynhyrchiad arloesol, cyfoes o’r gerdd gan Brith Gof a Test Department yn y 1980au. 

Darllen mwy

NOW THE
PERFORMANCE

Prosiect sy’n cyfuno sawl math o gelfyddyd yw Nawr Yr Arwr / Now The Hero, a hwnnw’n cael ei gynnal ar un safle penodol. Marc Rees, yr artist aml-ddisgyblaeth sy’n hanu o Abertawe, sy’n gyfrifol am y prosiect ar ôl cael gwahoddiad personol gan 14-18 NOW i greu gwaith celfyddydol Cymreig o bwys i goffáu’r Rhyfel Mawr. Bydd y cyfan yn cael ei gynnal yn Neuadd Brangwyn, ac yn yr ardal o’i hamgylch, adeg y Cynhaeaf ym mis Medi 2018.

Darllen mwy