Nawr Yr Arwr Logo (Short / Dark) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Pink) Nawr Yr Arwr Logo (Short / Light)

GRAFT: MAES LLAFUR Y PRIDD

Prosiect tir sy’n ymwneud â bwyd a gofod i greu gweithdy cymunedol addysgol, gyda chwricwlwm gwahanol yn arwain y cyfan.Yr artist Owen Griffiths sy’n datblygu’r prosiect hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a Nawr Yr Arwr / Now The Hero sy'n ei gomisiynu.

Gofod sy’n creu gweithdy a gardd gymunedol yw GRAFT,gyda chwricwlwm gwahanol yn arwain y cyfan. Y nod yw gweithio gyda chymunedau, ysgolion ac oedolion sy’n ddysgwyr i dyfu bwyd a edrych ar y broses o greu.Yr artist Owen Griffiths sy’n arwain y prosiect hwn, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a NYA/NTH.

Cae Tân yw’r partner amaethyddol a chymunedol sy’n cynghori, yn dysgu ac yn arwain sesiynau fel rhan o'r cwricwlwm yn GRAFT.Sefydliad o Lanilltud Gŵyr yw Cae Tân, ac mae’n cynnal prosiectau tyfu cynnyrch, bwyd a choginio ledled y ddinas. Mae hefyd yn sefydliad amaethyddiaeth organig a gefnogir gan y gymuned, ac mae’n tyfu cynnyrch ac yn bwydo tua 120 o deuluoedd yn Abertawe.

Gwaith celf sy’n canolbwyntio ar y gymdeithas yw GRAFT,a’i nod yw cyflwyno system newydd o addysgeg ymarferol gan greu llinyn cyswllt rhwng bwyd a datblygu cynaliadwy. Mae'n creu seilwaith gwyrdd yng nghanol y ddinas gan roi lle a modd i bobl dyfu bwyd, cydweithio a choginio.Gan ddefnyddio'r comisiwn o broses celf gyhoeddus er mwyn edrych ar ba mor ddefnyddiol yw celfyddyd fel adnodd, mae gan Griffiths a Rees ddiddordeb yn y gwaddol a’r elfen o gyfrannu y gall Graft eu cynnig fel rhan o NYA/NTH.

Yn yr ardd mae system o welyau uchel a gardd ddeildy grog. Mae’r ardd wedi gweddnewid cwrt yr Amgueddfa, ac mae hen gynhwysydd llong yno hefyd a hwnnw wedi’i droi yn weithdy cymunedol. Rhoddodd paneli Brangwyn ysbrydoliaeth i Rees gomisiynu Griffiths i greu gofod gwyrdd newydd fel rhan o NYA/NTH.

Y cyfranogwyr a’r tîm sydd wedi creu holl seilwaith yr ardd. Mae Griffiths wedi dylunio pob rhan o’r datblygiad er mwyn i bobl allu cyfrannu, tra bo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gallu cynnig achredu, hyfforddiant a chymorth i bobl a chymunedau feithrin sgiliau newydd.

Mae’r Prosiect yn gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol ym milltir sgwâr yr Amgueddfa fel Crisis, Caer Las, Ysgol Gynradd St Thomas, The Wollich a Chanolfan Ddydd West Cross, sy’n bartner lleol arall. Mae hefyd yn gweithio gyda’r cwricwlwm dysgu oedolion a ddatblygwyd ac a guradwyd gan Zoe Geally.

Mae gan Griffiths ddiddordeb yn y modd y mae dau ddiwylliant yn cwrdd – y sefydliadol a’r organig, yr hanesyddol a’r cymdeithasol. Dyna y mae’r ardd yn ei gynrychioli.Mae’n cynrychioli’r llafur sydd ynghlwm wrth greu gardd i sefydliad y gellir ei defnyddio wedyn fel adnodd i herio rôl yr amgueddfa yn yr unfed ganrif ar hugain.Mae’n golygu defnyddio’r ardd fel gofod i ehangu gwaith addysgol helaeth yr Amgueddfa a chreu adnodd addysgol newydd yn y man allanol diflas gynt. Bydd GRAFT yn adnodd parhaol i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac mae’n gysylltiedig â’i gwaith yn lleol a’i hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd hefyd yn gynefin gwyrdd, cymdeithasol newydd yn nhirwedd trefol y ddinas.

“Dyma brosiect cyffrous newydd i’r amgueddfa.Mae’n gyfle inni ddatblygu’r ardd, rhywbeth rydyn ni wedi bod yn awyddus iawn i’w wneud ers tro!Mae’n wych gallu gwneud hyn mewn ffordd gyfannol, gan weithio gyda’n dysgwyr a chynnwys grwpiau, pobl ac ysgolion newydd yn yr amgueddfa, yn ogystal â datblygu adnodd y mae modd ei fwyta!”

Zoe Geally, Uwch Swyddog Dysgu, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

“Drwy’r ardd gallwn edrych ar gasgliad yr amgueddfa sy’n olrhain ein hanes ymerodraethol, gorffennol diwydiannol y ddinas, a’i gwreiddiau masnachol wrth allforio copr a glo ar raddfa fawr.Mae’r ardd yn fan delfrydol a hynod berthnasol i siarad am yr heriau sy’n wynebu pob cenhedlaeth; o fod yn adnodd i fynd i’r afael ag unigrwydd a phobl sydd wedi’u hel i’r cyrion, i fod yn ofod i drafod newid hinsawdd a chyfrifoldeb, yn ogystal â’r syniadau sy’n ymwneud â defnyddio prosesau celf gyhoeddus i greu darn o gelfyddyd ddefnyddiol. Drwy hyn i gyd, mae’r ardd yn stiwdio neu’n ystafell ddosbarth aml-bwrpas ddelfrydol!

Owen Griffiths, Artist


“Mae Cae Tân wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwaith addysgol drwy Abertawe.Rydym ar hyn o bryd yn bwydo tua 120 o deuluoedd o’n model amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn ardal Gŵyr, ac rydym wrthi’n ehangu. Rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn rhan o GRAFT ac o fod wedi datblygu cysylltiadau ar gyfer ein gwaith a’n harbenigedd drwy weithio gyda’r amgueddfa a Nawr Yr Arwr.Mae’n gyfle gwych i bobl fod yn rhan o'r broses o dyfu bwyd mewn cyd-destun trefol, gan gryfhau cymunedau a dysgu sgiliau ailgysylltu hanfodol!”

Tom O’Kane, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cae Tân

Bydd llysiau a gaiff eu tyfu yn GRAFTyn cael eu defnyddio wneud cawl i 2500 o bobl – a hwnnw’n cael ei weini i aelodau’r gynulleidfa fel rhan o berfformiadau Nawr Yr Arwr / Now The Hero ym mis Medi 2018.

Mae gan Owen Griffiths a Marc Rees hanes o gydweithio, wedi i Griffiths greu Vetch Vegwrth ymateb i brosiect Adain/AvionRees ar gyfer Olympiad Diwylliannol 2012.Mae’r ardd lysiau gymunedol a ddatblygwyd ar y cyd â chymuned Sandfiels yn Abertawe yn dal yno yn 2018, gan ddarparu ar gyfer tua 150 o bobl leol.Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cydnabod bod Vetch Vegyn brosiect sydd wedi gweddnewid diwylliant, gan ddylanwadu ar newidiadau mewn polisïau cynllunio ac amgylcheddol lleol. Mae miloedd o bobl a grwpiau cymunedol o Gymru a'r thu hwnt hefyd yn ymweld â’r prosiect.

Dilynwch ein cynnydd ar y cyfryngau cymdeithasol, neu dewch heibio i’r amgueddfa i ddweud helô!

facebook : www.facebook.com/graft.a.soil.based.syllabus
instagram : www.instagram.com/graft____

aboutreconnection.comwww.museum.wales/swansea
www.caetancsa.org/en/

Owen Griffiths

Mae ymarfer ac ymchwil Griffiths yn ymwneud â'r defnydd o dir, materion trefol, systemau bwyd cymunedol a syniadau sy'n herio arferion cynllunio trefol arferol.Mae’n credu bod prosiectau tir cymunedol a modelau perchnogaeth gwahanol yn hanfodol er mwyn gallu ail-greu ein dinasoedd a’n hamgylcheddau.Mae’n artist sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd ac ar gymdeithas, a bu’n gweithio yng ngwledydd Llychlyn a’r Unol Daleithiau.Mae’n Llysgennad Cymru Greadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru a bu’n Gymrawd Ymchwil y British Council. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nifer o brosiectau ledled y Deyrnas Unedig.Ymhlith ei gleientiaid mae Carchardai EM, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a sefydliadau addysgol, ac awdurdodau lleol.Mae Griffiths wedi cydweithio ers tro gyda Isabel Griffin a Fern Thomas ac ynghyd â Rabab Ghazoul, mae’n gyd-gyfarwyddwr ar Gentle/Radical, sef cwmni artistiaid o Gaerdydd sy’n gweithio ar faterion yn ymwneud â dad-drefedigaethu, y dychymyg radical, cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol.Mae’n byw yn Abertawe.