Diwrnodau Agored yn GRAFT : a soil based syllabus y prosiect gardd newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; comisiwn gan Nawr Yr Arwr / Now The Hero a'r amgueddfa, ar y cyd â’r artist Owen Griffiths. System newydd o addysgeg ymarferol, wedi’i seilio ar fodel gwelyau uchel a stiwdio greu arbennig: dyna’r disgrifiad o GRAFT. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, mae’r ardd yn adnodd newydd i'r amgueddfa. Y nod yw creu cysylltiad rhwng cwricwlwm sy'n pontio'r cenedlaethau drwy ddysgu a chreu yn yr awyr agored ar y naill law, a bwyd a chydweithio ar y llaw arall.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Cae Tan, prosiect amaethyddiaeth cymunedol yn ardal Gŵyr, ynghyd â grwpiau a phartneriaethau lleol eraill. Dewch i gyfarfod Owen Griffiths, y prif artist, a’r gymuned o bobl sy’n rhan o’r prosiect, wrth iddyn nhw gynnal penwythnos agored yn yr ardd gyda lluniaeth, teithiau ac arddangosfeydd o’r prosiect a’r prosesau sy’n rhan o’r gwaith.
Hefyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, bydd cyfle i weld arddangosfa ar y Munitionettes y Colonnade ac arddangosfa sy’n edrych ar oblygiadau’r Rhyfel Mawr yn Oriel y Wal Goch.
facebook : www.facebook.com/graft.a.soil.based.syllabus
instagram : www.instagram.com/graft____
https://amgueddfa.cymru/abertawe/ www.caetancsa.org/en/
Ar agor: 11.00 - 15.00