Yr artist o Brydain, Fiona Banner neu The Vanity Press, sy’n edrych ar bosibiliadau a chyfyngiadau iaith ysgrifenedig, ac ar natur geiriau a sut y gallan nhw fod yn annigonol. Bu ganddi ddiddordeb ers tro byd mewn rhyfel a’r iaith sy’n gysylltiedig â’r maes.Mae hi’n aml yn gweithio o dan y llysenw The Vanity Press, sef argraffnod cyhoeddi arbrofol a sefydlwyd ganddi yn 1997.
Yn y ffilm Buoys Boys, mae cylchoedd mawr, a’r rheini ar ffurf atalnodau llawn o wahanol fathau o deip, yn arnofio ar y môr.I gyd-fynd â’r ffilm ceir trac sain sy’n adlais o Snoopy Vs The Red Baron, y gân bop o 1966. The Red Baron oedd llysenw Manfred Von Richthofen, y peilot drwg-enwog o’r Almaen yn ystod y Rhyfel Mawr a wnaeth enw iddo’i hun yn sgil nifer y dynion ifanc a laddwyd ganddo yn ystod y brwydro, ac am gael cryn fwynhad yn gwneud hynny, yn ôl pob sôn.
Rhagddangosiad: 6 - 8pm (21 Medi)
Ar agor:Mawrth – Sadwrn 11-5pm, a’r arddangosfa’n parhau tan 10 Tachwedd